Y Salmau 135:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

11. Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

12. Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13. Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth.

14. Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

Y Salmau 135