Y Salmau 130:6-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore.

7. Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda'r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef.

8. Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.

Y Salmau 130