3. Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:
4. Rhag dywedyd o'm gelyn, Gorchfygais ef; ac i'm gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.
5. Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i'r Arglwydd, am iddo synio arnaf.