Y Salmau 128:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.

4. Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.

5. Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.

6. A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.

Y Salmau 128