Y Salmau 126:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.

4. Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.

5. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.

6. Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Y Salmau 126