1. Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.
2. Fel y mae Jerwsalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.
3. Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.
4. O Arglwydd, gwna ddaioni i'r rhai daionus, ac i'r rhai uniawn yn eu calonnau.