Y Salmau 124:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yna y'n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn:

4. Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:

5. Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.

6. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i'w dannedd hwynt.

7. Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.

8. Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

Y Salmau 124