Y Salmau 121:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymorth.

2. Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

3. Ni ad efe i'th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.

4. Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.

5. Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.

Y Salmau 121