Y Salmau 119:98-104 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

98. A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.

99. Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100. Deellais yn well na'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.

101. Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

102. Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a'm dysgaist.

103. Mor felys yw dy eiriau i'm genau! melysach na mĂȘl i'm safn.

104. Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

Y Salmau 119