Y Salmau 119:95-100 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

95. Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.

96. Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

97. Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.

98. A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.

99. Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100. Deellais yn well na'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.

Y Salmau 119