Y Salmau 119:91-99 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

91. Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.

92. Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.

93. Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys รข hwynt y'm bywheaist.

94. Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.

95. Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.

96. Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

97. Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.

98. A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.

99. Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

Y Salmau 119