Y Salmau 119:9-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10. A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.

11. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.

12. Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.

13. A'm gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.

14. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â'r holl olud.

Y Salmau 119