Y Salmau 119:85-96 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

85. Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86. Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y'm herlidiasant; cymorth fi.

87. Braidd na'm difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.

88. Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

89. Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.

90. Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.

91. Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.

92. Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.

93. Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y'm bywheaist.

94. Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.

95. Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.

96. Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.

Y Salmau 119