Y Salmau 119:80-89 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

80. Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na'm cywilyddier.

81. Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.

82. Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y'm diddeni?

83. Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.

84. Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?

85. Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86. Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y'm herlidiasant; cymorth fi.

87. Braidd na'm difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.

88. Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

89. Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.

Y Salmau 119