Y Salmau 119:71-76 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

71. Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.

72. Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

73. Dy ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.

74. Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.

75. Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y'm cystuddiaist.

76. Bydded, atolwg, dy drugaredd i'm cysuro, yn ôl dy air i'th wasanaethwr.

Y Salmau 119