Y Salmau 119:67-71 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

67. Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

68. Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.

69. Y beilchion a glytiasant gelwydd i'm herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â'm holl galon.

70. Cyn frased â'r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.

71. Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.

Y Salmau 119