Y Salmau 119:6-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yna ni'm gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.

7. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.

9. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10. A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.

11. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.

12. Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.

13. A'm gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.

14. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â'r holl olud.

15. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

17. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di.

19. Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.

20. Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bob amser.

21. Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.

Y Salmau 119