Y Salmau 119:50-67 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

50. Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a'm bywhaodd i.

51. Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.

52. Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.

53. Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.

54. Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.

55. Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith.

56. Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.

57. O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.

58. Ymbiliais â'th wyneb â'm holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.

59. Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.

60. Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.

61. Minteioedd yr annuwiolion a'm hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.

62. Hanner nos y cyfodaf i'th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.

63. Cyfaill ydwyf fi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchmynion.

64. Llawn yw y ddaear o'th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.

65. Gwnaethost yn dda â'th was, O Arglwydd, yn ôl dy air.

66. Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.

67. Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

Y Salmau 119