Y Salmau 119:47-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.

48. A'm dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

49. Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50. Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a'm bywhaodd i.

51. Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.

52. Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.

Y Salmau 119