Y Salmau 119:39-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40. Wele, awyddus ydwyf i'th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

41. Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy air.

42. Yna yr atebaf i'm cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.

Y Salmau 119