Y Salmau 119:37-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.

38. Sicrha dy air i'th was, yr hwn sydd yn ymroddi i'th ofn di.

39. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40. Wele, awyddus ydwyf i'th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

41. Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy air.

Y Salmau 119