Y Salmau 119:36-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra.

37. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.

38. Sicrha dy air i'th was, yr hwn sydd yn ymroddi i'th ofn di.

39. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40. Wele, awyddus ydwyf i'th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

41. Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy air.

42. Yna yr atebaf i'm cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.

43. Na ddwg dithau air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.

44. A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.

45. Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.

46. Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.

47. Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.

48. A'm dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

Y Salmau 119