2. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a'i ceisiant ef â'u holl galon.
3. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
4. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.
5. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!
6. Yna ni'm gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.
7. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
8. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.
9. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
10. A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
11. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.
12. Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
13. A'm gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.