Y Salmau 119:169-176 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

169. Nesaed fy ngwaedd o'th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170. Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

171. Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.

172. Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.

173. Bydded dy law i'm cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.

174. Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a'th gyfraith yw fy hyfrydwch.

175. Bydded byw fy enaid, fel y'th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.

176. Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.

Y Salmau 119