Y Salmau 119:155-171 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

155. Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

156. Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

157. Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

158. Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.

159. Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd.

160. Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air; a phob un o'th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

161. Tywysogion a'm herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.

162. Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.

163. Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th gyfraith di a hoffais.

164. Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165. Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166. Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion.

167. Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.

168. Cedwais dy orchmynion a'th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

169. Nesaed fy ngwaedd o'th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170. Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

171. Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.

Y Salmau 119