Y Salmau 119:155-158 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

155. Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

156. Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

157. Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

158. Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.

Y Salmau 119