Y Salmau 119:149-153 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

149. Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

150. Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.

151. Tithau, Arglwydd, wyt agos; a'th holl orchmynion sydd wirionedd.

152. Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.

153. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.

Y Salmau 119