Y Salmau 119:136-141 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

136. Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

137. Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau.

138. Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.

139. Fy sĂȘl a'm difaodd; oherwydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.

140. Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.

141. Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.

Y Salmau 119