Y Salmau 119:135-152 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

135. Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.

136. Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

137. Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau.

138. Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.

139. Fy sêl a'm difaodd; oherwydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.

140. Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.

141. Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.

142. Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a'th gyfraith sydd wirionedd.

143. Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchmynion oedd fy nigrifwch.

144. Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

145. Llefais â'm holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.

146. Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.

147. Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.

148. Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.

149. Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.

150. Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.

151. Tithau, Arglwydd, wyt agos; a'th holl orchmynion sydd wirionedd.

152. Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.

Y Salmau 119