Y Salmau 119:128-135 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

128. Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

129. Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130. Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.

131. Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i'th orchmynion di.

132. Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy enw.

133. Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134. Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.

135. Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.

Y Salmau 119