Y Salmau 119:106-111 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

106. Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107. Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air.

108. Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.

109. Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

110. Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.

111. Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.

Y Salmau 119