102. Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a'm dysgaist.
103. Mor felys yw dy eiriau i'm genau! melysach na mêl i'm safn.
104. Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
105. Llusern yw dy air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr.
106. Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
107. Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air.
108. Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
109. Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110. Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
111. Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
112. Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
113. Meddyliau ofer a gaseais: a'th gyfraith di a hoffais.