Y Salmau 118:10-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Yr holl genhedloedd a'm hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

11. Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

12. Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

13. Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a'm cynorthwyodd.

14. Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.

15. Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.

16. Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.

17. Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.

18. Gan gosbi y'm cosbodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.

19. Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.

20. Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.

Y Salmau 118