1. Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.
2. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
3. Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
4. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.
5. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
6. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
7. Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â'u gwddf.
8. Y rhai a'u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
9. O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
10. Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.