3. Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4. Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd.
5. Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
6. Mynegodd i'w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7. Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
8. Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a'u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
9. Anfonodd ymwared i'w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.
10. Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.