Y Salmau 111:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â'm holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.

2. Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a'u hoffant.

3. Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4. Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd.

5. Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.

6. Mynegodd i'w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7. Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:

8. Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a'u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.

9. Anfonodd ymwared i'w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.

10. Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.

Y Salmau 111