Y Salmau 11:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i'ch mynydd fel aderyn?

2. Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.

3. Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?

Y Salmau 11