8. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
9. Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
10. Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
11. Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12. Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
13. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.
14. Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
16. Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
17. Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
18. Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
19. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.
20. Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinistr.
21. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
22. Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23. Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
24. Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25. Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
26. Hwy a esgynnant i'r nefoedd, disgynnant i'r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.