Y Salmau 107:39-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.

40. Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

41. Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42. Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43. Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.

Y Salmau 107