31. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
32. A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
33. Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34. A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
35. Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a'r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
36. Ac yno y gwna i'r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:
37. Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
38. Ac efe a'u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i'w hanifeiliaid leihau.
39. Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.
40. Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
41. Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
42. Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
43. Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.