Y Salmau 107:31-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

32. A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33. Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34. A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

35. Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a'r tir cras yn ffynhonnau dwfr.

Y Salmau 107