Y Salmau 107:27-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a'u holl ddoethineb a ballodd.

28. Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u dwg allan o'u gorthrymderau.

29. Efe a wna yr ystorm yn dawel; a'i thonnau a ostegant.

30. Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a'u dwg i'r porthladd a ddymunent.

31. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

32. A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

Y Salmau 107