Y Salmau 107:18-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.

19. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.

20. Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinistr.

21. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

22. Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23. Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.

Y Salmau 107