Y Salmau 107:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.

14. Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

16. Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

Y Salmau 107