Y Salmau 107:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;

3. Ac a gasglodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r deau.

4. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:

Y Salmau 107