Y Salmau 106:39-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda'u dychmygion.

40. Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.

41. Ac efe a'u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a'u caseion a lywodraethasant arnynt.

42. Eu gelynion hefyd a'u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.

Y Salmau 106