Y Salmau 106:33-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â'i wefusau.

34. Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt:

35. Eithr ymgymysgasant â'r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:

36. A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.

Y Salmau 106