Y Salmau 105:41-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

42. Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

43. Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.

44. Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.

45. Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Y Salmau 105