Y Salmau 105:34-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif;

35. Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

36. Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

37. Ac a'u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

38. Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

39. Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

Y Salmau 105