Y Salmau 105:27-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

28. Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

29. Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.

30. Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32. Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

Y Salmau 105